English

Oedi Myfyrio Ailgysylltu

Cynulleidfa
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
Arweinwyr cynnar
Arweinwyr profiadol

Lleoliad
Rhithwir

Hyd
3 awr

Cost
Dim cost i gynrychiolwyr

Trosolwg

Oedi. Myfyrio. Ailgysylltu. Tri gair a chysyniad syml, ond pa mor aml ydyn ni'n caniatáu’r amser i'n hunain wneud y pethau hyn?

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn edrych ar waith Stephen Covey i archwilio'r Pedwar Dimensiwn Dynol – Corff, Calon, Meddwl ac Ysbryd, a datblygu strategaethau i feithrin ein lles a'n gwydnwch ein hunain. 

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.

Manteision i chi

  • Cyflwyniad i'r cysyniad o'r Pedwar Dimensiwn Dynol.
  • Archwilio eich cryfderau a'ch meysydd ar gyfer datblygu ar draws y Dimensiynau.
  • Dysgu strategaethau i ddatblygu eich gwydnwch personol a gwella eich lles eich hun a modelu'r ymddygiad hwn i'ch timau i greu diwylliant mwy gwydn.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Rhannu arweinyddiaeth

Cynulleidfa darged

Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:

  • Arweinwyr cynnar - pobl sy’n dechrau eu gyrfa arweinyddiaeth - yn arwain tîm neu'n dylanwadu trwy arbenigedd a pherthnasoedd.
  • Arweinwyr profiadol - pobl sydd â mwy o brofiad arweinyddiaeth - yn arwain swyddogaethau neu wasanaethau drwy osod cyfeiriad strategol a sicrhau cysondeb rhwng nifer o dimau.

Cost

Dim cost i gynrychiolwyr.

Sut i wneud cais