English

Cryfder a Sensitifrwydd

Cynulleidfa
Arweinwyr profiadol
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Lleoliad
Wyneb yn wyneb neu rhithwir

Hyd
3.5 awr

Cost
Dim cost i gynrychiolwyr

Arwain ymddygiad da yn y gweithle 

Trosolwg

Nid ar hap mae diwylliannau iach a pharchus yn digwydd yn y gweithle; cânt eu llunio bob dydd gan arweinwyr sy'n gosod y naws, yn ymateb yn adeiladol i ymddygiad gwael ac yn creu amodau lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel, wedi eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu cyfrannu.

Gan ddefnyddio senarios cyfarwydd ar gyfer myfyrio, trafod a chymhwyso, mae'r gweithdy ymarferol hwn yn archwilio sut i arwain ymddygiad da gyda chryfder a sensitifrwydd: yr hyder i enwi a herio ymddygiad di-fudd, a'r gofal i wneud hynny mewn ffordd sy'n diogelu urddas, ymddiriedaeth a dysgu yn y gweithle.

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.

Deilliannau dysgu

  • Cydnabod sut mae ymddygiad dyddiol arweinydd yn dylanwadu ar gwrteisi, ymddiriedaeth a diogelwch seicolegol yn y gweithle.
  • Ymarfer dulliau sy’n cyfuno eglurder, hyder, empathi a pharch wrth ymateb i ymddygiad anghwrtais.
  • Cynllunio a gweithredu camau ymarferol i ymyrryd fel arweinydd, gan gynnwys sylwi, enwi, holi sut mae pethau ac uwchgyfeirio pryderon yn briodol.

Manteision i chi

  • Mwy o hyder i dynnu sylw at ymddygiad anghwrtais yn gynnar ac yn adeiladol.
  • Perthynas gryfach ag eraill wedi’i selio ar ymddiriedaeth, parch a disgwyliadau clir.
  • Arwain diwylliant mwy cynhwysol a pharchus lle mae pobl yn cael eu cefnogi i godi llais.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Cynulleidfa darged

Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:

  • Arweinwyr profiadol - pobl sydd â mwy o brofiad arweinyddiaeth - yn arwain swyddogaethau neu wasanaethau drwy osod cyfeiriad strategol a sicrhau cysondeb rhwng nifer o dimau.

Cost

Dim cost i gynrychiolwyr.

Sut i wneud cais