Ysgol Aeaf 2027

Cynulleidfa
Arweinwyr gweithredol
Dyddiadau
2 i 5 Chwefror 2027, Preswyl
Cost
£600 + TAW
‘Meithrin Arweinyddiaeth Gysylltiedig’
Gwybodaeth
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7 Rhagfyr 2026.
Trosolwg
Mae Arwain yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Ysgol Aeaf 2027 yn dychwelyd i leoliad godidog Nant Gwrtheyrn – lle sy’n ysbrydoli ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrio a chreu cysylltiadau.
Mae'r rhaglen nodedig eleni, Meithrin Arweinyddiaeth Gysylltiedig, wedi'i chynllunio i greu gofod i uwch arweinwyr gamu oddi wrth eu tasgau dyddiol, meddwl yn wahanol, meithrin perthynas gydag eraill ac archwilio'r heriau sy'n wynebu arweinwyr yng Nghymru. Bydd y rhaglen eleni yn dod â Chadeiryddion, Prif Weithredwyr ac Uwch Arweinwyr o bob cwr o Gymru ynghyd i archwilio'r hyn sydd ei angen i arwain yn effeithiol mewn amgylchedd cynyddol gymhleth a rhyng-gysylltiedig sy’n newid.
Nid yw llawer o'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yn eistedd yn daclus o fewn ffiniau un sefydliad, sector neu broffesiwn. O wydnwch yr hinsawdd ac anghydraddoldebau i drawsnewid digidol, cyfyngiadau ariannol, pwysau ar y gweithlu a lles, mae'r materion y mae arweinwyr yn mynd i’r afael â nhw yn fwyfwy rhyng-gysylltiedig.
Bydd Meithrin Arweinyddiaeth Gysylltiedig yn archwilio beth mae hyn yn ei olygu i arweinyddiaeth.
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Bydd y rhaglen yn creu cyfleoedd i gyfranogwyr weithio ar heriau go iawn o ran arweinyddiaeth a systemau sy’n deillio o Symposiwm Arwain Tachwedd 2026, gan dynnu ar wahanol safbwyntiau a deallusrwydd a phrofiad cyfunol arweinwyr o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus Cymru, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol.
Drwy ddysgu trwy brofiad ymarferol, mewnbwn arbenigol, ymarfer myfyriol, her gan gymheiriaid ac ymholi cydweithredol, bydd y cyfranogwyr yn archwilio sut i:
- Ymdrin â chymhlethdod: Gwneud synnwyr o amgylcheddau cymhleth sy’n newid, herio meddwl sefydledig a datblygu'r crebwyll a'r gallu i ymateb yn wahanol i heriau gwahanol.
- Arwain ar draws systemau: Cydnabod cysylltiadau a rhyng-ddibyniaethau, edrych y tu hwnt i ffiniau sefydliadol a chydbwyso’r pwysau sy’n digwydd nawr gyda gwerth a chanlyniadau hirdymor.
- Cysylltu a chydweithio: Adeiladu perthnasoedd dibynadwy ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru, y trydydd sector a gwirfoddol, dysgu o wahanol safbwyntiau a galluogi gweithredu ar y cyd lle mae awdurdod, gwybodaeth ac adnoddau’n cael eu rhannu.
- Troi mewnwelediad yn weithred: Arwain gyda dilysrwydd, tosturi, chwilfrydedd a phwrpas, gan gyfieithu ffyrdd newydd o feddwl, perthnasoedd a dysgu yn weithredu ymarferol.
Mae Meithrin Arweinyddiaeth Gysylltiedig yn ymwneud â symud o arwain yn bennaf o fewn sefydliadau i gryfhau ein gallu i arwain rhyngddynt ac ar eu traws.
Bydd lle yn ystod yr Ysgol Aeaf i archwilio pa ymddygiadau arweinyddiaeth sydd eu hangen ar Gymru nawr ac yn y dyfodol. Bydd profiad, mewnwelediad a heriau’r cyfranogwyr yn helpu i lunio datblygiad parhaus Arwain a'i gynnig arweinyddiaeth ar gyfer Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru.
Coetsio gweithredol
Bydd yr Ysgol Aeaf yn cynnwys dwy sesiwn awr o hyd o goetsio gweithredol un-i-un, a gynhelir cyn ac ar ôl y rhaglen. Mae'r cymorth pwrpasol hwn yn galluogi cyfranogwyr i archwilio’r heriau cyfredol, ac ystyried sut y gallant wneud y mwyaf o brofiad yr Ysgol Aeaf, cymhwyso'r hyn a ddysgwyd mewn cyd-destun, myfyrio ar eu dylanwad fel arweinwyr, ac ymgorffori dulliau newydd o feddwl yn eu harferion dyddiol.
Manteision i chi
Mae Meithrin Arweinyddiaeth Gysylltiedig yn cynnig cyfle unigryw i gamu'n ôl o'r tasgau dyddiol, oedi a myfyrio ar eich taith arweinyddiaeth, ailgysylltu â’ch pwrpas a chyda’ch chyfoedion, ac ail-ddychmygu dyfodol arweinyddiaeth mewn:
- Hyder: Adeiladu'r hyder a'r crebwyll i arwain trwy gymhlethdod ac ansicrwydd, herio ffyrdd sefydledig o feddwl a gwneud penderfyniadau pwrpasol pan nad oes ateb syml.
- Gallu: Cryfhau eich gallu i ddeall systemau a throi mewnwelediad yn weithred ymarferol sy'n cyflawni canlyniadau gwell i bobl a chymunedau.
- Cysylltiad: Datblygu perthnasoedd dibynadwy gydag uwch arweinwyr o bob cwr o Gymru, gan dynnu ar wahanol safbwyntiau ac adeiladu'r rhwydweithiau sydd eu hangen ar gyfer gweithredu cydweithredol a chyfunol.
Sylwadau gan gynadleddwyr Ysgol Aeaf 2026:
"Roedd Ysgol Aeaf 2026 yn brofiad dysgu ysbrydoledig ac o ansawdd uchel a gryfhaodd fy hyder, ehangu fy mhersbectif, a rhoi cymhelliant gwirioneddol i mi ar gyfer cam nesaf fy nhaith arweinyddiaeth."
"Cyfle gwych i ddod ynghyd â phobl o'r un anian o wahanol gefndiroedd a phrofiadau o'r sector cyhoeddus i rannu a dysgu oddi wrth ein gilydd. Wythnos wych i ffwrdd o'r swydd ddyddiol i fyfyrio a chael ysbrydoliaeth gan gyfoedion a siaradwyr gwych yn y diwydiant mewn lleoliad hyfryd yng Ngogledd Cymru."
"Profiad Ysgol Aeaf gwirioneddol ysbrydoledig ac o ansawdd uchel, gyda siaradwyr rhagorol a chynnwys diddorol drwyddi draw."
"Profiad gwerthfawr wnaeth ysgogi’r meddwl a chreu lle i fyfyrio, ail-fframio fy null o arwain, a chryfhau'r ffordd rwy'n ymdrin â chymhlethdod a risg yn ymarferol."
Ymhlith y siaradwyr mae
-
Chris Bolton Cartrefi Cymoedd Merthyr
-
Beth Smith The Cynefin Company
-
Ceri Witchard Arwain
Gwybodaeth
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd
Hyrwyddo arloesi a newid
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Synnwyr strategol
Cynulleidfa darged
Arweinwyr gweithredol: Mae’r Ysgol Aeaf wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Cost
Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ac mae’r ffi o £600 + TAW yn cynnwys yr holl ddarpariaeth dysgu a datblygu, llety un ddeiliadaeth ar y safle a’r bwrdd llawn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cyfarwyddiadau ymuno unwaith y byddan nhw wedi derbyn eu lle.
Ni fydd y rhaglen yn talu eich costau teithio.
Nodwch, os cewch le yn yr Ysgol Aeaf ac yna tynnu’n ôl o’r rhaglen ar ôl derbyn, efallai y bydd yn ofynnol i’ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.
Bwrsariaethau
Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau o hyd at 100% tuag at gost cynrychiolwyr Ysgol Aeaf 2027. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli, grwpiau lleiafrifol a than anfantais a/neu gan sefydliadau elusennol lle mae arian yn brin i sefydliadau cyflogaeth ac elusennau. Ni fydd y rhaglen yn talu am eich costau teithio.
I wneud cais am fwrsariaeth
Darparwch dystiolaeth (50 i 100 gair). Mae angen i'ch ymateb gyd-fynd â'r meini prawf isod:
- Rydych chi'n rhan o grŵp sydd wedi'i dangynrychioli, grŵp lleiafrifol neu dan anfantais o fewn eich sefydliad, a/neu sefydliadau elusennol lle mae gan sefydliadau cyflogaeth ac elusennau arian cyfyngedig.
- Maint eich sefydliad.
- Gwerth y bwrsari rydych chi’n gwneud cais amdano.
Sut i wneud cais
Mae Arwain yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r rhwydweithiau i arweinwyr er mwyn datrys y problemau mwyaf cymhleth sy’n wynebu’r byd heddiw. Ochr yn ochr â’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd y cwrs hwn yn eu rhoi i chi, rydym yn awyddus i bwysleisio pŵer meithrin cysylltiadau â’ch cyfoedion yn yr ystafell.
Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol, gyda chynrychiolwyr yn cael eu dewis o bob rhan o’r sector cyhoeddus i alluogi ystod eang o safbwyntiau yn yr ystafell ac i’ch cefnogi i gryfhau eich rhwydweithiau proffesiynol. Bydd lleoedd yn cael eu dyfarnu i'r ymgeiswyr hynny sy'n dangos amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Aeaf ac sy'n gallu dangos tystiolaeth o’u hadenillion o fuddsoddi.
Yr hyn rydych yn ei ennill o’r buddsoddiad yw effaith gynaliadwy y dysgu i chi a'ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir i bobl Cymru. Mae’n arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio drwy gyfnodau heriol ac sy’n ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i’w canlyniadau sefydliadol ar lefel systemig.
I wneud cais am le, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein hon yn datgan eich amcanion ar gyfer mynychu'r digwyddiad erbyn 7 Rhagfyr 2026.
Mwy o wybodaeth
Gwybodaeth
I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.
Adnoddau dan sylwDod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
Cysylltwch â niYsgol Aeaf
Cyfryngau cymdeithasolDilynwch ni ar Arwain