Cyrsiau a digwyddiadau

Rydym yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr sy'n gweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Rydym wedi trefnu ein rhaglenni arweinyddiaeth a datblygu fesul lefel i'ch helpu i ddod o hyd i’r rhaglen sydd fwyaf addas i chi. O bryd i'w gilydd, rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau peilot cyfyngedig. Gallwch gadw golwg am ddyddiadau sydd i ddod a lleoedd sydd ar gael a dod o hyd i gyfleoedd peilot drwy edrych ar ein calendr digwyddiadau:
Rhaglenni dysgu rydym yn eu cynnig
-
Arweinwyr sy'n tarddu
Pobl sy'n anelu at eu rôl arwain gyntaf, sy'n awyddus i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau i arwain.
-
Arweinwyr cynnar
Pobl sy’n dechrau eu gyrfa arweinyddiaeth - yn arwain tîm neu'n dylanwadu trwy arbenigedd a pherthnasoedd.
-
Arweinwyr profiadol
Pobl sydd â mwy o brofiad arweinyddiaeth - yn arwain swyddogaethau neu wasanaethau drwy osod cyfeiriad strategol a sicrhau cysondeb rhwng nifer o dimau.
-
Arweinwyr gweithredol
Yn cynnig cyfeiriad strategol a llywodraethiant ar gyfer sefydliad - Prif Weithredwyr, Aelodau’r Bwrdd a Chadeiryddion.
Rhaglenni dysgu eraill
-
Dysgu cryno
Croeso i fyd dysgu sydd wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch amserlen brysur. P'un ai ydych chi newydd ddechrau neu'n awyddus i ddyfnhau eich gwybodaeth, mae'r modiwlau hyn yn cynnig gwybodaeth a sgiliau ymarferol, i gyd ar flaenau eich bysedd. Ewch ati i ddarganfod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn, un sgwrs ar y tro.
-
Gwaith hwyluso a chefnogaeth wedi’u teilwra
Mae ein tîm profiadol o ymarferwyr datblygu arweinyddiaeth a rheoli yn awyddus i ddarparu cefnogaeth wedi'i theilwra i wasanaethau cyhoeddus ac elusennau cofrestredig Cymru.
-
Sefydliadau dysgu gwasanaethau cyhoeddus
Mae'r sefydliadau hyn yn cynnig amrywiaeth o raglenni dysgu.
Diweddariadau a negeseuon atgoffa
Os nad oes gan y rhaglen y mae gennych chi ddiddordeb ynddo unrhyw ddyddiadau ar y gweill, peidiwch â phoeni! Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio. Pan fydd rhagor o ddyddiadau’n codi, fe rown wybod i chi. Yn y cyfamser, mae croeso i chi bori drwy ein Hadnoddau dysgu a’n Rhwydweithiau.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, cysylltwch â ni.