Croeso
Croeso i Arwain — ysgol lywodraethu genedlaethol Cymru. Yma fe welwch wersi, adnoddau, digwyddiadau a rhwydweithiau ym maes arweinyddiaeth sydd wedi'u cynllunio i gysylltu, datblygu a chefnogi arweinwyr ym mhob cam o'u gyrfa ar draws Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru.
Mae’r dudalen hon yn esbonio beth sydd ym mhob rhan o'r wefan ac yn esbonio sut mae mewngofnodi a gosod eich proffil. Os oes gennych unrhyw ymholiadau nad ydynt yn cael eu hateb yma, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dechrau arni
Mae llawer o’n hadnoddau ar gael i'r cyhoedd; fodd bynnag, mae rhywfaint o gynnwys unigryw sydd ar gael i aelodau’n unig.
Gallwch ymaelodi os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru.
Bydd hyn yn caniatáu i chi gael mynediad at yr ystod lawn o adnoddau, ymuno â rhwydweithiau a dechrau sgwrsio â phobl eraill ar y wefan.
| Sut mae aelodaeth Arwain yn gweithio | Ddim yn aelod (Ar agor i bawb) | Aelod (Ar agor i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru) |
|---|---|---|
| Gweld yn Gymraeg neu’n Saesneg | ![]() | ![]() |
| Ar gael ar gyfrifiadur, ar ffôn symudol neu ar ddyfais tabled | ![]() | ![]() |
| Mynediad at adnoddau dysgu | ![]() | ![]() |
| Darllen newyddion a blogiau | ![]() | ![]() |
| Cofrestru ar gyfer y Bwletin Cyfleoedd | ![]() | ![]() |
| Gwneud cais am gyrsiau a digwyddiadau | - | ![]() |
| Mynediad at adnoddau dysgu unigryw | - | ![]() |
| Gwneud sylwadau ar adnoddau dysgu a rhoi sgôr iddynt | - | ![]() |
| Cadw eich hoff adnoddau dysgu mewn lle hwylus | - | ![]() |
| Creu’ch proffil personol | - | ![]() |
| Ymuno â rhwydwaith neu sefydlu un | - | ![]() |
| Dechrau sgyrsiau ag aelodau eraill | - | ![]() |
Eich proffil
Byddwch yn cael tudalen proffil yn awtomatig pan fyddwch yn aelod o’r wefan. Yno, gallwch weld yr adnoddau rydych wedi’u dynodi, rheoli eich dewisiadau o ran tanysgrifio i rwydweithiau a gweld unrhyw sgyrsiau ag aelodau eraill.
- Mynediad at eich proffil – gallwch gael mynediad at eich proffil unrhyw dro ar y brif faner ar frig y wefan
- Diweddaru eich proffil – pan fyddwch ar eich tudalen proffil, cliciwch ‘Golygu proffil’ (gan gynnwys newid eich cyfrinair) Dim ond aelodau unrhyw rwydweithiau rydych wedi ymuno â nhw fydd yn gallu gweld eich proffil.
Rhwydweithiau
- Ymuno â rhwydwaith – edrychwch drwy'r rhwydweithiau sydd ar gael a gofynnwch am gael ymuno
- Newid eich tanysgrifiad – rheolwch hyn o’r dudalen rhwydwaith neu o’ch proffil
- Creu rhwydwaith – os hoffech greu eich rhwydwaith eich hun, cysylltwch â ni
- Gadael rhwydwaith – ewch i dudalen y rhwydwaith a chlicio ar ‘Wedi ymuno’, a bydd hwn yn rhoi'r dewis i chi adael
Adnoddau dysgu
Gallwch chwilio am adnoddau penodol neu bori drwy ein categorïau i ddod o hyd i'r deunyddiau sydd eu hangen arnoch. Mae'r adran adnoddau yn cynnwys fideos, cyflwyniadau, erthyglau ac amryw o ddolenni defnyddiol eraill.
Gallwch naill ai clicio ar adnodd a’i ddefnyddio, neu gallwch ddewis o nifer o gamau gweithredu.
- Nodi tudalen – cadw cofnod o adnoddau defnyddiol
- Adolygu – gadael sylw neu sgôr i’n helpu ni i ddeall pa fath o gynnwys rydych chi’n ei hoffi a beth hoffech chi weld mwy ohono
- Adrodd – rhoi gwybod i ni os oes problem
- Ychwanegu tag – ein helpu ni i gategoreiddio cynnwys er mwyn i eraill ddod o hyd iddo’n haws
- Rhannu – anfon at eich cysylltiadau neu bostio ar y cyfryngau cymdeithasol
Os hoffech ychwanegu eich adnoddau at ein gwefan, cysylltwch â ni.
Cyrsiau a digwyddiadau
Gallwch chwilio drwy ein prosbectws llawn o gyrsiau, rhaglenni a digwyddiadau, ac archebu.
Y ffordd orau o gael gwybod am yr hyfforddiant diweddaraf yw drwy danysgrifio i’n Bwletin.
Newyddion a safbwyntiau
Cael gwybod y diweddaraf yn y newyddion a’r blogiau. Os hoffech i’ch newyddion chi ymddangos ar y dudalen hon, cysylltwch â ni.
Amdanom ni
Rhagor o wybodaeth am Arwain a’n gwaith. Gallwch weld telerau ac amodau’r wefan a'r hyfforddiant yn y rhan hon hefyd.
Ac yn olaf...
Gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio'r wefan!
Rydym bob amser yn ceisio gwella, felly os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu adborth, cysylltwch â ni.
