Bwrdd Llywio Arwain
Mae Bwrdd Llywio Arwain yn dod ag uwch-arweinwyr o bob rhan o system gwasanaethau cyhoeddus Cymru ynghyd i lunio, herio a hyrwyddo datblygiad Arwain fel ysgol lywodraethu genedlaethol Cymru. Trwy ei fewnwelediad, ei ddylanwad a'i broses arwain system, bydd y Bwrdd Llywio yn helpu i gryfhau gallu arwain, dyfnhau cydweithio a chefnogi canlyniadau gwell ar draws Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru.
Cadeirydd: Owen Evans
Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Estyn
Owen Evans sy’n gyfrifol am arolygu addysg a hyfforddiant yn Nghymru. Ef hefyd sy’n gyfrifol am reoli, staffio a threfniant Estyn. Mae’n rhoi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru sy’n cyfrannu at y gwaith o ddatblygu ac adolygu polisi yng Nghymru. Yn gyn Brif Weithredwr S4C a Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, mae wedi canolbwyntio rôl Estyn ar wella safonau a chefnogi'r sectorau y mae Estyn yn gweithio â nhw.
Mae Owen yn siarad Cymraeg a chafodd ei addysg yn Ysgol Penweddig ac yng Ngholeg Ceredigion, Aberystwyth, cyn graddio mewn economeg o Brifysgol Abertawe. Cyn ymuno â’r sector cyhoeddus, bu Owen yn gweithio i Grŵp BT am 10 mlynedd mewn amrywiaeth o rolau ledled y DU. Mae wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac wedi cadeirio Bwrdd Datblygu Addysg Caerdydd yn y gorffennol. Fel cyn-aelod o fwrdd cynghori Marie Curie yng Nghymru, mae’n rhan o raglen Speakers for Schools ac yn cadeirio Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCo).
Graham Edwards OBE
Prif Weithredwr, Wales & West Utilities (WWU)
Mae Graham wedi bod yn Brif Weithredwr ers sefydlu’r busnes yn 2005, pan brynwyd rhwydweithiau nwy Cymru a de-orllewin Lloegr gan y Grid Cenedlaethol. Mae'r cwmni'n gwasanaethu poblogaeth o 7.5 miliwn o bobl, gyda refeniw blynyddol o bron i £700 miliwn a gwerth dros £3 biliwn o asedau.
Bu Graham yn rhedeg busnesau trydan a dŵr yn y sector cyfleustodau cyn iddo sefydlu WWU yn 2005. Arferai weithio yn y sector gweithgynhyrchu gyda nifer o gwmnïau rhyngwladol – gan gynnwys y maes modurol a nwyddau defnyddwyr – cyn symud i fyd cyfleustodau. Yn ystod ei yrfa amrywiol mae wedi dal swyddi uwch mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau – gan gynnwys Peirianneg, Cynhyrchu ac Adnoddau Dynol – cyn dod yn arweinydd busnes.
Mae Graham wedi dal nifer o swyddi anweithredol hefyd, gan gynnwys gyda Dŵr Cymru, Prifysgol De Cymru a'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama. Mae hefyd yn gyn-Gadeirydd y CBI yng Nghymru.
Mae ganddo MBA o Brifysgol Caerdydd, ac yn 2022 dyfarnwyd OBE iddo am ei wasanaethau i fusnes a'r gymuned yng Nghymru.
Craig Flannery
Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Craig Flannery yw Prif Swyddog Tân a Phennaeth Gwasanaeth Cyflogedig Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae’n arweinydd cydnabyddedig ym maes gwasanaethau cyhoeddus gyda dros 24 mlynedd o brofiad yn cynnwys arwain gweithredol, trawsnewid sefydliadol, gwydnwch a datblygu arweinyddiaeth. Mae ei waith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau sefydliadol drwy rolau arwain cenedlaethol gyda Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, lle mae’n gweithredu fel Swyddog Arweiniol dros Ddysgu ac Ymchwil Sefydliadol, gan helpu i ddylanwadu ar bolisïau, arferion a safonau proffesiynol ledled y DU.
Cyn hynny, bu’n gadeirydd Fforwm Cydnerth Lleol De Cymru, gan arwain gwaith partneriaeth ar draws y gwasanaethu brys, llywodraeth leol, iechyd a’r sector gwirfoddol i gryfhau gwydnwch a pharodrwydd ar draws y rhanbarth. Mae Craig hefyd wedi cyfrannu’n rhyngwladol drwy ei rôl flaenorol fel Is-gadeirydd Cymuned Ymarfer Hyfforddiant ac Addysg Cyngres Tân y Byd, gan weithio gydag arweinwyr gwasanaethau tân ac achub o bob cwr o’r byd i hyrwyddo dysgu, datblygiad proffesiynol a chyfnewid arferion gorau. Cynrychiolodd Gymru yng Nghyngres Tân y Byd yn ddiweddar ac mae ef wedi cefnogi arloesedd rhyngwladol ym maes hyfforddiant gwasanaethau brys drwy gymryd rhan mewn prosiect efelychiad trochol a gefnogwyd gan yr Asiantaeth Rheoli Argyfyngau Ffederal (FEMA), er mwyn helpu i archwilio a datblygu dulliau newydd o hyfforddi, dysgu a pharatoi’n weithredol.
Mae Craig yn Ymddiriedolwr i Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ac Elusen y Diffoddwyr Tân, sy’n adlewyrchu ei ymrwymiad i gefnogi pobl, arweinyddiaeth a llesiant ar draws y sector. Fel coets achrededig gydag Academi Wales, mae’n cefnogi datblygiad uwch arweinwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru ac mae’n eiriolwr angerddol dros arweinyddiaeth gydweithredol, sy’n cael ei llywio gan werthoedd.
Mae Craig yn byw yn Sir Gaerfyrddin gyda’i wraig a’i deulu. Law yn llaw â’i ymrwymiadau proffesiynol, mae’n gwerthfawrogi bywyd teuluol ac yn parhau i fod yn ymroddedig i gefnogi datblygiad arweinwyr y dyfodol a chryfhau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Dr Andrew Goodall
Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru
Penodwyd Dr Andrew Goodall i rôl Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021 ac mae'n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wrth gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog ac yn gweithredu fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru. Cyn hyn roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, swydd yr oedd wedi bod ynddi ers mis Mehefin 2014.
Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr y GIG yng Nghymru ers 16 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd a ddaliodd ers sefydlu'r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl ad-drefnu'r GIG i'r model Bwrdd Iechyd integredig.
Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y GIG, mae Dr Goodall wedi dal swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau'r GIG drwy Dde Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol.
Mae ganddo feysydd diddordeb arbennig mewn gwella diogelwch cleifion, ansawdd a phrofiad cleifion; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen trwy wella a moderneiddio gwasanaethau.
Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaethau Iechyd o Ysgol Busnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i'r GIG ac i wasanaethau cyhoeddus.
Abigail Harris
Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ymunodd Abigail â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel y Prif Weithredwr ar 28 Hydref 2024. Cyn ymgymryd â'r rôl hon, Abigail oedd Prif Gomisiynydd Dros Dro Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru o fis Ebrill 2024, tra ar secondiad o'i rôl barhaol fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio Strategol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, swydd a oedd ynddi am dros ddeng mlynedd. Cyn hyn Abigail oedd Cyfarwyddwr Strategaeth, Integreiddio a Gofal Sylfaenol Llywodraeth Cymru o fewn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Treuliodd Abigail bedair blynedd mewn awdurdod lleol yn Ne Cymru fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Llesiant gyda chyfrifoldeb am wasanaethau cymdeithasol, hamdden, llyfrgelloedd, y celfyddydau a gwasanaethau dysgu oedolion. Cyn symud i lywodraeth leol, treuliodd 17 mlynedd mewn swyddi uwch yn y GIG ledled De Cymru, yn ddiweddarach fel Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd Lleol ym Mro Morgannwg.
Mae gan Abigail radd Meistr mewn Gofal Integredig ac roedd yn gyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru am ddau dymor llawn, gan orffen ym mis Mawrth 2025. Ar 1 Rhagfyr 2025, penodwyd Abigail yn Athro Anrhydeddus yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Andrew Key
Cyfarwyddwr, Dylunio a darparu dysgu, Ysgol Genedlaethol y Llywodraeth a Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Andrew yn arwain y gwaith o ddylunio a darparu dysgu a datblygu ar gyfer Ysgol Genedlaethol y Llywodraeth a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae ei gyfrifoldebau'n cynnwys datblygu a darparu: hyfforddiant mewn sgiliau cyffredinol, gan gynnwys digidol ac arweinyddiaeth; cynlluniau datblygu talent, gan gynnwys Ffrwd Gyflym y Gwasanaeth Sifil; datblygu arweinyddiaeth ar draws y sector cyhoeddus a; hyfforddiant diogelwch cenedlaethol trwy'r Coleg Diogelwch Cenedlaethol.
Ers ymuno â Swyddfa'r Cabinet ym mis Chwefror 2024, mae Andrew wedi arwain ymdrechion i gyfarparu'r Gwasanaeth Sifil â'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth nawr ac yn y dyfodol, ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu arweinyddiaeth ar draws y sector cyhoeddus.
Arferai fod yn brif weithredwr y Swyddfa Farnwrol, gan gefnogi'r Arglwyddes Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd yn eu harweinyddiaeth o'r farnwriaeth a'r berthynas â'r llywodraeth, y senedd a'r cyhoedd.
Cyn hynny, treuliodd Andrew lawer o'i yrfa yn y Swyddfa Dramor, gan gynnwys fel dirprwy bennaeth cenhadaeth yn Beijing, cyfarwyddwr cynorthwyol adnoddau dynol a Llysgennad i Macedonia.
Yr Athro Rachael Langford
Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae'r Athro Rachael Langford yn Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd ers 2024, ar ôl bod yn Ddirprwy Is-Ganghellor yn y brifysgol yn flaenorol. Cyn y rolau hyn, roedd hi'n Ddirprwy Is-Ganghellor a Deon Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen, a chyn hynny, yn Bennaeth Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.
Yn siaradwr Ffrangeg ar lefel frodorol ac yn siaradwr Cymraeg ail iaith rhugl, mae Rachael yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn aelod o Fwrdd Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (SDA) ar gyfer Addysg Uwch, yn aelod o Bwyllgor Strategol yr Academi Brydeinig ar gyfer Ieithoedd mewn Addysg Uwch, ac yn aelod o Bwyllgor Cynghori ar Addysg yr Academi Brydeinig. Bu hefyd yn gadeirydd Panel Arbenigol Prifysgolion Cymru ar Addysg ac Ymchwil Ryngwladol yng Nghymru, ac yn aelod o weithgor iaith Gymraeg y corff sy’n rheoleiddio’r trydydd sector yng Nghymru (Medr).
Dr Gwenllian Lansdown Davies
Prif Weithredwr, Dysgu
Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies yn dod o Fangor yn wreiddiol ac erbyn hyn wedi ymgartrefu gyda’i gŵr a’i phedwar o blant yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn. Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a byw am gyfnod yn Galisia a Brwsel cyn cwblhau gradd MScEcon a Doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth. Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Ward Glanrafon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, treuliodd gyfnod yn gweithio fel Rheolwr Swyddfa Leanne Wood AS yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007.
Ar ôl gweithio i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, treuliodd 11 mlynedd fel Prif Weithredwr Mudiad Meithrin o 2014 tan 2025. Cychwynnodd fel Prif Weithredwr Dysgu yn 2025. Mae Gwenllian yn Aelod Bwrdd S4C a Medr, yn lywodraethwr ysgol ac yn gwirfoddoli yn ei Chylch Meithrin lleol ar y Pwyllgor fel yr Unigolyn Cyfrifol.
Richard Lewis
Prif Weithredwr, APHA
Cyn ymuno ag APHA, gwasanaethodd Richard fel Prif Gwnstabl ar ddau heddlu: Heddlu Cleveland a Heddlu Dyfed-Powys. Yn Cleveland, cadeiriodd y Grŵp Cydlynu Strategol a ddarparodd ymateb aml-asiantaeth i bandemig Covid-19 ar gyfer gogledd-ddwyrain Lloegr. Gyda Dyfed-Powys, arweiniodd Richard ar droseddau gwledig, gan ganolbwyntio ar ddiogelu cynefinoedd, troseddau yn erbyn bywyd gwyllt ac iechyd meddwl y gymuned amaethyddol.
Fel arweinydd polisi cyffuriau Cyngor Penaethiaid Cenedlaethol yr Heddlu, mae wedi gweithio ochr yn ochr â’r Swyddfa Gartref a gwyddonwyr byd-enwog i ymestyn darpariaeth Naloxone, gwrthwenwyn opioid sy’n achub bywydau, i helpu i leihau marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau.
Yn 2010, enillodd Ysgoloriaeth Fulbright, rhaglen addysgol mawr ei bri, ym Mhrifysgol Talaith Pennsylvania, lle bu’n astudio effaith digwyddiadau niweidiol yn ymwneud â dyfeisiau Taser ar y gymuned.
Mae Richard wedi bod yn olygydd gwadd ar raglen Today ar BBC Radio 4, ac wedi gwasanaethu fel Cymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol. Enillodd ei PhD ym Mhrifysgol Spa Caerfaddon yn astudio rheoli newid.
Dr Chris Llewelyn
Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Daeth Chris Llewelyn yn Brif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ym mis Ionawr 2018. Ymunodd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth yn 2002 a chafodd ei benodi'n Ddirprwy Brif Weithredwr yn 2010. Yn ystod ei gyfnod yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae Chris wedi sefydlu a bod yn gyfrifol am ystod eang o feysydd portffolio'r Gymdeithas.
Cyn ymuno â CLlLC, bu'n gweithio fel ymchwilydd yn San Steffan am gyfnod a bu'n athro gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Bu hefyd yn gweithio i'r Ganolfan Astudiaethau Datblygu ym Mhrifysgol Abertawe â bu'n weithgar ym maes datblygu cymunedol am flynyddoedd lawer.
Aeth Chris ymlaen i weithio fel Pennaeth Ymchwil Cyngor Defnyddwyr Cymru ac mae wedi gwasanaethu nifer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Llywodraeth y DU ac Awdurdod S4C rhwng 2001 a 2010.
Cafodd Chris ei eni a'i fagu ym mhentref glofaol Sir Gaerfyrddin Glanaman a chafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman, a Chymraeg yn iaith gyntaf iddo. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerlŷr ac Academi Cyfraith Ewropeaidd, Sefydliad Prifysgol Ewrop, Fflorens yn yr Eidal.
Sarah McCarty
Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru
Sarah McCarty yw Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru. Gweithiwr ieuenctid oedd Sarah ar ddechrau ei gyrfa, ac ers hynny mae hi wedi gweithio swyddi ar draws llywodraeth leol, sefydliadau cenedlaethol a'r trydydd sector. Cyn iddi ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2016, hi oedd Cyfarwyddwr Gweithredol y bartneriaeth sy'n cefnogi gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar ledled y DU. Cafodd Sarah ei phenodi'n Brif Weithredwr yn 2024, ac mae’n angerddol dros arweinyddiaeth tosturiol sy'n seiliedig ar systemau ac sy'n cryfhau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae hi hefyd yn dysgu Cymraeg.
Dr Megan Mathias MBE
Prif Swyddog Gweithredu, Llywodraeth Ynys Manaw
Megan yw Prif Swyddog Gweithredu Swyddfa Cabinet Llywodraeth Ynys Manaw, ac mae hi’n ymdrin â Pholisi a Llywodraethiant Strategol, y Goron a Chysylltiadau Allanol, y Swyddfa Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Trawsnewid y Llywodraeth ac Iechyd y Cyhoedd.
Mae gyrfa Megan wedi pontio’r gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector a'r byd academaidd. Cyn ymuno â Llywodraeth Ynys Manaw, bu’n gweithio mewn swyddi uchel yn Llywodraeth Jersey a Llywodraeth Cymru; hi oedd Prif Swyddog Gweithredol cyntaf Moondance Cancer Initiative, sefydliad nid-er-elw sy'n ceisio gwell canlyniadau canser yng Nghymru, ac mae’n un o sylfaenwyr Kafka Brigade y DU ac Iwerddon, sy’n ymgynghoriaeth ymchwil gweithredu; mae hi wedi gweithio i Lywodraeth Seland Newydd, Ysgol Lywodraeth Mohammed bin Rashid yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2017–18.
Cafodd Megan Ddoethuriaeth ym maes Arweinyddiaeth mewn Llywodraeth yn 2018, am waith a oedd yn canolbwyntio ar brosesau creu synnwyr (sensemaking) ac arweinyddiaeth ymysg uwch swyddogion yng Nghymru a Seland Newydd. Dyfarnwyd MBE iddi yn 2020 am ei Gwasanaethau i Bolisi a Busnes, a hynny am ei chyfraniad at yr ymateb i Covid-19 yn Jersey.
Paul Orders
Cyfarwyddwr Anweithredol, Estyn
Mae Paul Orders yn was cyhoeddus profiadol. Ef oedd prif weithredwr Cyngor Caerdydd rhwng 2013 a 2026; a phrif weithredwr Cyngor Dinas Dunedin, yn Seland Newydd, rhwng 2011 a 2013. Arweiniodd Paul raglenni datblygu sefydliadol mawr yn llwyddiannus, gan ganolbwyntio ar wella perfformiad gwasanaethau cyhoeddus lleol. Mae ei gefndir ym maes rheoli ac arwain yn cynnwys cyfrannu at ddatblygiad diweddar Caerdydd fel Prifddinas Ewropeaidd. Roedd yn Gyfarwyddwr Anweithredol hirdymor gyda Stadiwm y Mileniwm ccc, ac mae ganddo brofiad o arwain fel prif weithredwr cyngor wrth gyflwyno digwyddiadau rhyngwladol mawr. Ar hyn o bryd, mae Paul yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol Estyn.
Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan KPM OStJ MBA
Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru
Jeremy Vaughan KPM OStJ MBA yw Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru ac Is-gadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC). Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad plismona, mae wedi dal ystod eang o rolau arwain ac wedi arwain rhaglenni sylweddol o welliant gweithredol, trawsnewid sefydliadol a diwygio gwasanaethau cyhoeddus ar lefel leol a chenedlaethol.
Ochr yn ochr â'i gyfrifoldebau dros yr heddlu, mae Jeremy yn cadeirio Pwyllgor Cydlynu Gwyddoniaeth ac Arloesi'r NPCC, gan weithio gyda phartneriaid ar draws plismona, llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant i hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, arloesedd technolegol a datblygu galluoedd plismona'r dyfodol.
Fel eiriolwr brwdfrydig dros arweinyddiaeth gynhwysol a chydweithredol, mae Jeremy wedi gwasanaethu fel arweinydd y DU ar gyfer HeForShe dros y pum mlynedd diwethaf, gan hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd a datblygiad menywod mewn rolau arweinyddiaeth. I gydnabod ei waith ym maes amrywiaeth a chynhwysiant, derbyniodd Wobr Arwain Cymru am Arweinyddiaeth mewn Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Fel siaradwr Cymraeg, mae Jeremy wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad arweinyddiaeth yng Nghymru a chryfhau partneriaethau ar draws gwasanaethau cyhoeddus i wella canlyniadau i gymunedau. Fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, cafodd ei dderbyn i’r Orsedd yn 2019.
Dyfarnwyd Medal Heddlu'r Brenin (KPM) i Jeremy am wasanaeth nodedig i blismona ac mae'n Swyddog yn Urdd Hybarch Sant Ioan (OStJ). Mae ganddo radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA).
Catrin Whitmore
Pennaeth Gwasanaethau Pobl, Undeb Rygbi Cymru
Catrin Whitmore yw Pennaeth Gwasanaethau Pobl Undeb Rygbi Cymru. Dechreuodd ei gyrfa yn y sector cynhyrchu teledu annibynnol, cyn symud o fyd gynhyrchu i fyd adnoddau a thalent pan ymunodd â'r BBC. Bu'n gweithio gyda S4C wedi hynny.
Mae Catrin yn siarad Cymraeg a cafodd ei magu yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon. Mae’n angerddol dros ddatblygu talent ac ehangu mynediad at waith yng Nghymru, yn enwedig drwy brentisiaethau.
Shereen Williams
Prif Swyddog Gweithredol, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru, Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Uchel Siryf Gwent
Shereen Williams yw Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru (CDFfC), Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru (CFfG) ac ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu fel Uchel Siryf Gwent.
Mae hi wedi arwain rhaglenni mawr o ddiwygio democrataidd, gan gynnwys yr adolygiad mwyaf helaeth o etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ers dros ddau ddegawd, Adolygiad Etholaethau Seneddol 2023 gan sefydlu 32 o etholaethau seneddol newydd y DU yng Nghymru, a’r adolygiad arwyddocaol o ffiniau etholaethau’r Senedd ar gyfer Senedd Cymru estynedig.
Yn flaenorol, roedd gan Shereen swyddi ym maes cydlyniant cymunedol ar draws Casnewydd a Sir Fynwy, gan arwain gwaith strategol ar gydraddoldeb, mudo a gwrtheithafiaeth. Bu hefyd yn gadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd Llywodraeth Cymru.
Gyda dros 20 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus a gwirfoddol, mae Shereen wedi dal swyddi ymddiriedolwr gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru a'r Sefydliad Materion Cymreig. Dyfarnwyd MBE anrhydeddus iddi am wasanaeth i'r gymuned yn 2017; cafodd gydnabyddiaeth yn Her Arweinwyr Dylanwadol AACSB yn 2018; a chafodd ei phenodi'n Swyddog yn Urdd Sant Ioan ac yn Ddirprwy Raglaw Gwent. Mae hi hefyd yn eistedd fel ynad ar fainc Gwent.
Ceri Witchard
Cyfarwyddwr, Arwain
Ceri Witchard yw Cyfarwyddwr Arwain, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Academi Wales ers 2024. Hi sy’n arwain y gwaith o gefnogi datblygu arweinyddiaeth ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae ganddi brofiad helaeth fel uwch arweinydd sy’n cwmpasu polisi, gweithrediadau, trawsnewid sefydliadol a dysgu a datblygu.
Cyn ymuno ag Academi Wales, roedd gan Ceri rolau uwch yn Llywodraeth Cymru, Tŷ'r Cwmnïau a'r Swyddfa Eiddo Deallusol. Mae ei gyrfa wedi cynnwys arwain rhaglenni newid mawr, llunio strategaeth a diwylliant sefydliadol, a gweithio gyda thimau uwch reoli a byrddau i gryfhau arweinyddiaeth a pherfformiad. Mae hi hefyd wedi dal amrywiaeth o rolau llywodraethiant gweithredol, anweithredol a gwirfoddol.
Mae Ceri yn angerddol am ddatblygu arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus hyderus, galluog a chysylltiedig a all weithio ar draws ffiniau sefydliadol i sicrhau canlyniadau gwell i Gymru.